

|
Prosiectau Lleol > De Ddwyrain: Casnewydd
Diben rhaglen Mentro Allan Casnewydd yw:
• Cynyddu a chynnal lefelau gweithgarwch corfforol ar gyfer pobl o bob gallu o gefndiroedd o leiafrifoedd ethnig. Rhoddir sylw arbennig i dargedu’r rhannau o’r gymuned sydd leiaf tebygol o gymryd rhan, yn cynnwys pobl hŷn, merched Moslemaidd a mamau gyda phlant ieuainc. • Y nod yw gwella iechyd corfforol a chynyddu disgwyliadau hamdden ac amgylcheddol ymhlith pobl o leiafrifoedd ethnig. • Hybu gwell defnydd a dealltwriaeth o’r amgylchedd naturiol ar gyfer hamdden yn gyffredinol drwy gyfrwng gweithgarwch corfforol yn gwella iechyd. • Cynyddu gwybodaeth pobl leol am gyfleoedd yn ardal Casnewydd, a’u parch at yr amgylchedd lleol yn arbennig. Cydlynir y Bartneriaeth ar gyfer Casnewydd gan Gyngor Cydraddoldeb Hiliol De Ddwyrain Cymru (SEWREC) a bydd yn targedu cymunedau Duon a Lleiafrifoedd Ethnig (DLlE) yn y ddinas. Y partneriaid allweddol eraill yw: • Cymdeithas Gwent o Sefydliadau Gwirfoddol (GAVO) • Y Gwasanaeth Iechyd Cyhoeddus Cenedlaethol • Cyngor Dinas Casnewydd • Bwrdd Iechyd Lleol Casnewydd, a • Prifysgol Cymru, Casnewydd Gweithgareddau Allweddol y Prosiect • Cerdded • Beicio Yn cynnwys hwyluso cynllun ailgylchu beiciau • Dyddiau hwyl i deuluoedd Gŵyl Maendy Carnifal Pill Gweithgareddau antur awyr agored Yng Nghasnewydd ac mewn ardaloedd cyfagos o harddwch naturiol eithriadol.
|
|
|
|
|
|
|
|